Arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd 2025
Arddangosfa i ddathlu 10 mlynedd o Wobr Goffa Eirian Llwyd, yn cynnwys gwaith argraffu amrywiol gan ymgeiswyr rhestr fer y wobr eleni, derbynwyr blaenorol a gweithiau gan y diweddar Eirian Llwyd
Agorir yr arddangosfa gyda darlleniad gan y bardd Karen Owen, sylwadau'r detholwyr gan Rhian Harris a bydd Ieuan Wyn Jones yn cyflwyno'r wobr.