Ganwyd Gwyneth ap Tomos yng Nghaeathro ger Caernarfon yn 1937.
Bu i Gwyneth ap Tomos a'i gŵr, Dafydd, achub Plas Glyn y Weddw yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif pan oedd yr adeilad yn brysur fynd yn adfail. Gyda llawer o lafur cariad, fe agorwyd yr adeilad fel oriel gyhoeddus unwaith eto. Fel teyrnged i Gwyneth a Dafydd, mae un o’n hystafelloedd arddangos wedi’i henwi yn 'Oriel ap Tomos' ac mae arddangosfa barhaol yn y Plas yn olrhain eu hanes yn atgyweirio’r adeilad ac agor yr oriel.
Yn drist iawn, bu farw Gwyneth yn 2016 wedi brwydr ddewr gyda chanser. Cofir amdani yn annwyl iawn yma yn y Plas, nid yn unig am ei llafur cariad yn adfer yr oriel, ond hefyd fel artist a pherson ysbrydoledig.