Ganed Phillip John Befan ym Mhrestatyn yn 1960. Cafodd ei fagu yn Fflint a bu’n ddisgybl yn Ysgol Gwynedd.
Yn ystod ei arddegau cynnar, fe dreuliodd lawer o amser yn helpu’r cipar a’i ewythr ar fferm. Yn anffodus ni ddysgodd llawer o’r iaith yn yr ysgol, er roedd ei ewythr a’i fodryb yn deall a siarad ychydig o’r iaith.
Bu’n dyheu i ddysgu’r iaith ers hynny, ac felly ar ôl symud i fyw i Bwllheli ble bu’n byw am 12 mlynedd cyn symud i Gaernarfon, derbyniodd wersi Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn ac yng Ngholeg Meirion Dwyfor.
Bu’n mwynhau gwersi celf yn yr ysgol gynradd ac ysgol Gwynedd er na chafodd lawer o hwyl oherwydd dulliau dysgu yn yr ysgol uwchradd. Er hynny, roedd yn mwynhau gwneud lluniau o dylluanod.
Ni wnaeth baentio am rai blynyddoedd ar ôl gadael yr ysgol gan ail ddechrau tua 20 mlynedd yn ddiweddarach. Mae’n peintio tylluanod yn bennaf gan ddefnyddio paent dyfrlliw ac weithiau inc.
Cliciwch yma i weld gwaith Phillip
Cliciwch i weld maint llawn