Ganwyd Keith Bowen yn Wrecsam, Sir Ddinbych. Astudiodd Gelf a Cynllunio ym Mholitechnig Manceinion o 1969-72. Yn 1997 gwobrwywyd ef â Chymrodoriaeth Prifysgol Cymru.
Mae Keith wedi arddangos yn eang ac wedi derbyn canmoliant cyfiawn am ei waith. Yn ogystal a llond lle o wobrwyon, mae Keith wedi ennill y Fedal Aur yng nghystadleuaeth Celf Gain Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy waith, ac yn 1992, etholwyd ef yn aelod o Academi Brenhinol Cambria.
Mae ei waith wedi bob yn rhan o ddau lyfr - 'Snowdon Shepherd' a 'Among the Amish', yn ogystal o dau stamp y Post Brenhinol. Mae ei waith mewn casgliadau cyhoeddus yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Genedlaethol y Post, Oriel Ynys Môn, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir Gaerlyr.
"Roedd ein cyn deidiau yn credu os oeddech yn cerdded yn rhy gyflym y byddent yn colli eu henaid. Wel dyma fy esgus i am arafu wrth ymdroi o gwmpas y bryniau. Nid lle i orymdeithio drostynt yw'r mynyddoedd. Fel y dywedodd W H Murray, yr awdur a'r mynyddwr o'r Alban "Find beauty. Be Still".
Y pynciau sydd yn dynfa i mi yw y tameidiau disylw o'r hynfyd: corlannau, llwybrau, cloddiau ac adwyon. Maent yn weddillion darfodus wedi eu hesgeuluso o'r hen ffordd o fyw, yn destament o'r hen oes ond yn llawn atgofion. Mewn culfannau mor wyllt a phrydferth fe allwn gofio eu bywydau.
Yng nghanol y nentydd, creigiau, coed crablyd a'r tywydd fe allwn ddarganfod atebion: yma mae'r ddraenen blethedig unig sydd yn cydio yn dyn i'r ddaear lom yn adlewyrchu cryfder y bobl o'r ardaloedd gwyllt Cymreig yma.
Ysgrifennodd Edward Thomas: "A land of rocks and trees, nourished on wind and stone"
Ysgrifennodd bardd arall WH Auden "Poetry makes nothing happen"
Credaf fod celf yn gyffelyb, os gallwch ddarganfod y farddoniaeth."