Arlunydd o ardal Pwllheli ym Mhen Llŷn, ar y ffin rhwng Llyn ag Eifionydd yw Carys Bryn. Daw o gefndir ffermio a wedi treulio'r 30 mlynedd diwethat fel Athrawes Gelf yn ei hysgol uwchradd gymunedol leol. Trwy gydol ei blynyddoedd ymroddedig o ddysgu mae hi wedi bod yn trio cydbwyso gyrfa ei hun fel artist!
Graddiodd Carys gyda gradd BA gyda Anrhydedd mewn Printiadu, ond yn ffendio ei hun yn gwneud amrywiaeth o waith. O greu modelau, 'murals' enfawr, dylunio logos, a darlunio Ilyfrau yn cynnwys 'Tecwyn y Tractor' yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus. Cychwynodd beintio yn 2008 a bu'n ffodus i arddangos mewn orielau amrywiol yng Nghymru a Lloegr.
Mae ei phaentiadau yn amrywio o ran arddull a momentwm, gallant hefyd amrywio o fod yn 'gimmicks' i beintiadau dwfn ag atmosfferig. Daw'r ysbrydoliaeth yn bennaf o'i chefndir ffermio a golygfeydd prydferth Pen Llŷn. Mae Carys bob amser yn dweud ei bod hi'n chwilio am gynhwysion a syniadau newydd ag o hyd yn edrych am ysbrydoliaethau.
Ym mis Tachwedd 2022 agorwyd canolfan celf ei hun yn ei chartref fel menter newydd yn dilyn ei ymddeoliad, sef 'Lle Art Carys Bryn', Rhosfawr, Pwllheli. Mai’n gobeithio cynnal arddangosfeydd, gweithdai a dosbarthiadau ei hun, tra hefyd yn arddangos a chyflwyno artistiaid lleol newydd.