Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Wedi ei eni yng Nghaerdydd aeth Howard Coles ymlaen i astudio celf yng Ngholeg Celf Caerdydd, gan dorri ei astudiaethau am gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol gyda'r Llynges Brenhinol. Yn ystod gyrfa yn canolbwyntio ar addysg treuliodd gyfnod yn byw yn Singapore, yn dysgu yn Ysgol Ramadeg Alexander. Yma y dechreuodd ymddiddori mewn torluniau pren Malay gyda'u delweddau syml yn gallu cyfleu ystum a theimlad. Ar ôl dychwelyd i'r DU bu'n dysgu yn Ysgol Gyfun Rufford yn Kirby ar Benrhyn Cilgwri cyn dod yn Bennaeth Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Hope Lerpwl.

I Howard nid yw paentio yn fater o ddal drych i'r tirlun neu ymgeisio rhyw fath o gyfieithiad llythrennol o'r ffordd y mae'n ymddangos. Yr hyn sy'n symbylu ei egni, techneg, sgiliau a phrosesau meddwl yw ei adweithiau cychwynnol i rywbeth a welir yn unigryw am y tro cyntaf. O'r dechrau un, ei nod yw gweld rhywbeth gwahanol yn y cyfarwydd a bod y profiad newydd yna yn un mor gryf fel y bydd yn tanio ymateb creadigol.

Er y gellid rhannu'r bwriad yna gyda ffotograffiaeth, mae'r ddau ffurf ar gelfyddyd yn gofyn am ffordd o feddwl hollol wahanol. Mae cyffredinedd yn yr 'edrych' - gyda'r llygad a thrwy lens y camera – ond yr hyn sy’n gwahaniaethu’r artist yw'r 'gweld'. Nid hanfod ei ddull yw creu ymateb sy’n ddrych ond ei allu i dreiddio i wir sylwedd rhywbeth, i arsyllu yn hytrach na’r derbyniad parod fod y tirlun yn bodoli fel pwnc gwych i greu darlun.

Mae cnewyllyn y syniad yn bodoli yn y pwynt arsyllu yma. Fel rheol, nid yw’r cyfeiriad y bydd yn arwain yn dod yn eglur tan ymhell i mewn i’r paentiad lle mae cyfuniad o liw ac ystum yn gallu arwain i nifer o wahanol gyfeiriadau, rhai y mae Howard, ar y cyfan, yn hapus i’w dilyn. Os nad yw'r paentiad yn taflu rhyw elfen o 'syndod' yn ei ddatblygiad mae'n tueddu i gael amheuon, tysteb i’w ymateb emosiynol, o'r 'gweld' cychwynnol i'r gwaith gorffenedig.

I Howard “mae’r tirwedd yn gyfuniad cymhleth o’r tir ei hun yn ogystal a digwyddiadau byrhoedlog a ysgogwyd gan awyrgylch ac emosiwn. Mae ymwybyddiaeth o'r graddau mae cynnwrf cataclysmig y gorffennol wedi siapio tirlun arfordirol Cymru yn aml yn pennu'r weithred gorfforol o gyflawni’r paent i’r canfas.

Cyfleu’r byrhoedledd hwn yw rhan anodd yr hafaliad – mae elfennau ffisegol craig a symudiad yn ddibynnol ar sgiliau oes ddysgwyd yn cerflunio a chreu printiadau a'u haddasiad o liw ac ystum. Mae'r ymateb emosiynol a ddaw yn sgil golau ac awyrgylch yn rhywbeth sy'n ddwfn ac yn breifat yn yr enaid. Dyma sy'n galw am rywbeth o'r tu mewn cymaint ag am arbrofi gyda phalet a brwsh. Dim ond pan fydd yr holl elfennau hyn yn cael eu tynnu ynghyd bydd gonestrwydd artistig y paentiad, yn ogystal a’r artist, wedi'i gynnal.”

Bu farw Howard yn Rhagfyr 2024.

Cliciwch yma i weld gwaith Howard