Adnabyddir Gareth Hugh Davies am y delweddau pwerus, enigmatig a hudolus sy’n ei beintiadau.
Mae absenoldeb y ffigwr mewn cyfeiriadau gweledol cyfarwydd megis coedwigoedd pinwydd, awyr lwydaidd, cymylau glaw, goleuadau trefol a llwybrau mewn eira yn galluogi sawl dehongliad.
"Rwy’n ymddiddori yn y math o ddrama tawel gall cyfeiriadaeth gweledol syml eu creu. Gellir eu gweld fel myfyrdodau ar y tensiynau rhwng golau a thywyllwch, y pell a'r cyfarwydd, cysur ac ymdeimlad ynysig. Mae'r darnau hyn hefyd yn ymwneud â’n byrhoedledd gymaint â’n gallu i drawsnewid y tir lle’r rydym yn byw.”
Hyfforddodd Gareth Hugh Davies yng Ngholeg Celf Dyfed, Caerfyrddin a Choleg Polytechnig Portsmouth cyn mynd i Goleg Polytechnig Gogledd Swydd Stafford lle arbenigodd mewn dylunio Gwydr Lliw.
Enillodd y Fedal Aur am Gelf Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1990. Mae wedi arddangos yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, gyda Cymdeithas Frenhinol Artistiaid Prydeinig yn y Mall Gallery, ac ar sawl achlysur yn Arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol.
Mae ei waith mewn nifer o gasgliadau preifat a chyhoeddus gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; Oriel y Bont. Prifysgol De Cymru a Chasgliad Sir Gaerfyrddin. Mae'n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.