gimme shelter
23 Mawrth - 5 Mai 2025
Mae gimme shelter yn gyfres o strwythurau meicro, darluniau a ffotograffau sy'n ail-ddychmygu'r syniad o'r Tŷ Unnos Cymreig ar gyfer y presennol. Yn ôl y traddodiad gwreiddiol, pe bai modd adeiladu tŷ ar dir comin rhwng oriau machlud a chodiad haul a chael mwg yn dod allan o’i simnai gyda’r wawr, yna gellid cadw’r tŷ ynghyd â’r tir wedi’i amgáu gan dafliad morthwyl o’r pedwar chwarter. Wedi'u hadeiladu o ffotograffau digidol a deunyddiau a ddarganfuwyd, mae'r modelau'n archwilio'r syniad o bensaernïaeth fel trosiad ar gyfer bywyd yn yr 21ain Ganrif.
Mae Antonia Dewhurst yn artist gweledol aml-gyfrwng sy’n byw ac yn gweithio yng ngogledd Cymru. Mae ganddi ddiddordeb yn ein perthynas gymhleth â'r hyn rydyn ni'n ei alw'n gartref. Graddiodd gyda BA mewn Celfyddyd Gain o Goleg Menai yn 2011. Yn stod nos 19/20fed Gorffennaf 2012 adeiladodd dŷ unnos go iawn ym mharc y Drenewydd, Powys ar gyfer Oriel Davies.
Mae hon yn sioe deithiol o Ganolfan Grefft Rhuthun, Y Ganolfan i'r Celfyddydau Cymhwysol