Yr hyn sy’n bwysig i Clare fel artist yw lliw, golau, gwead a marciau arwyneb, a chyfleu ymdeimlad o le i'r gwyliwr. Peintiwr tirluniau yw hi'n bennaf, sy'n cyd-fynd â'i chariad at leoedd gwylltaf Prydain. Mae ei gwaith yn esblygu mewn ymgais i symleiddio i'r elfennau hanfodol. Mae hi'n mwynhau arbrofi gyda phaent, gwthio ei derfynau a'i ddefnyddio mewn ffyrdd llai confensiynol. Ei chariad arall yw gwneud printiau, a monoprint yw'r dull mae wedi ei ddewis ar gyfer y casgliad hwn. Mae y rhwbio ymlaen ac oddiar, sgorio ac athreulio'r plât yn gyfochrog addas â gweithredu'r tywydd ar dirwedd.
Er ei bod yn dod o deulu o arlunwyr, fe gymerodd Clare tan ei 40au i ddechrau peintio,
Gan gwblhau BA Anrhydedd mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Metropolitan Wirral yn 2015. Mae hi wedi gweithio fel artist ac athro ers y cyfnod hwnnw, gan arddangos ledled y DU.
Cliciwch yma i weld gwaith Clare