Er iddi gael ei geni yn Llundain ac yn ddiweddarach yn byw yng Nghilgwri, mae Jenny bellach wedi byw yng Ngogledd Cymru ers blynyddoedd, yn paentio ac arddangos. Ar ôl ennill lefel ‘A’ mewn celf treuliodd beth amser yng Ngholeg Celf Ealing, ond mae wedi hunanddysgu i raddau helaeth.
Ymhlith ei hoff leoliadau mae Penrhyn Llyn ac Ynys Môn, er ei bod hefyd yn teithio i'r Alban, Cernyw, Ardal y Llynnoedd ac arfordir gogledd Swydd Efrog pan gaiff y cyfle.
Mae Jenny yn cael ei denu at yr arfordir, ac mae hen harbyrau, hen ffermydd a chychod pysgota yn ysbrydoliaeth gyson iddi. Er bod ei stiwdio bellach yn Sir y Fflint mae'n hawdd cyrraedd y mynyddoedd a'r môr.
Bydd Jenny yn paentio gyda phasteli, beiro a dyfrlliw, ond olewau ac acrylig yw ei hoff gyfryngau ac wedi'u paentio i raddau helaeth ar gynfas gyda chyllell.