Ganed Moira Huntly yn Motherwell, Yr Alban yn 1932, astudiodd yn Ysgol Gelf Harrow a Choleg Celf Hornsey ac mae ganddi radd mewn addysg celf o Brifysgol Llundain.
“Nid wyf yn teithio unrhywle heb lyfr braslunio, mae’n gwbl angenrheidiol os am gasglu syniadau ar gyfer paentiadau yn y dyfodol. Nid yw’r syniad o gofnodi teithiau gyda llyfr braslunio yn newydd, yn y ddeunawfed ganrif ‘roedd yn ffasiynol i deithio gan wneud lluniadau topograffig a lluniau dyfrliw. Aeth Turner ar nifer o deithiau braslunio, ac yn y dyddiau hynny ‘roedd cludo offer yn llawn trafferthion. Heddiw, gallwn deithio i bedwar ban byd yn hawdd.
‘Dwi’n gweithio yn y stiwdio gan ddefnyddio lluniadau wedi eu creu ar y safle, yn aml, capriccios yw fy mhaentiadau, hynny yw, paentiadau sydd wedi eu hysbrydoli gan fwy nag un ffynhonnell o wybodaeth.
Mae fy mhaentiadau yn portreadu mannau sydd yn apelio ataf o ran y ffordd maent yn edrych yn ogystal a rhai sydd a chysylltiad gyda fy ngorffennol. Mae Sbaen a Phortiwgal yn rhan o fy atgofion plentyndod cynnar. Bȗm yn byw yn Sbaen ond pan gychwynodd y rhyfel gartref yno, dihangodd fy nheulu a minnau i Bortiwgal a threuliais fy ngwyliau cyntaf pan ddychwelsom i Brydain yng Nghymru, gwlad hynafol llawn awyrgylch a thirluniau amrywiol. Rwy’n ymweld o leiaf unwaith y flwyddyn i chwilio am fythynod o wneuthuriad carreg, ffensys llechi, hen giatiau, capeli, dyffrynoedd gwyrdd a mawredd y mynyddoedd.
Mewn cyferbyniad, mae pensaerniaeth Sbaen a Phortiwgal gyda’r toeau panteil lliwgar gyda bargod yn ymestyn drosodd, simeau gwynion, strydoedd culion gyda stepiau cerrig, balconiau addurnedig, eglwysi bedigedig a chychod lliwgar yn creu gwledd arall i’r llygaid”
Mae Moira yn arddangos yn yr Arddangosfa Haf ers llawer o flynyddoedd.