Ers graddio o Goleg Celf Caeredin, Prifysgol Caeredin yn 1999 gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Tapestri a chwblhau gradd Meistr yn yr un coleg, mae Elin wedi arddangos ei gwaith hyd a lled Cymru a thramor. Mae’n byw yn Llanbedrog ac yn athrawes gelf a dylunio yn Ysgol Uwchradd Botwnnog.
Mae ei gwaith sydd yn cynnwys gwehyddiadau tapestri a lluniadau wedi'i ysbrydoli gan dirluniau, morluniau a barddoniaeth Cymru.
Meddai Elin: “Byddaf yn ail-greu llinellau, ffurfiau a ffiniau tir, môr ac awyr. Nid trosiad llythrennol mohonynt ond myfyrdodau ac atgofion o’r synnwyr o le. Boed yn waith lluniadu neu wehyddu datblyga’r gwaith mewn modd organig sydd yn gadael ôl fy llaw drwy grafu’r haenau yn y gwaith lluniadu ac amrywio tyndra’r gwlân yn y gwaith gwehyddu. Rwyf yn mwynhau’r gwrthdaro rhwng natur lafurus, ailadroddus gwehyddu a chyflymdra bywyd cyfoes.”
Yn ogystal ag arddangos ledled Cymru gan gynnwys sawl arddangosfa yma ym Mhlas Glyn-y-Weddw, mae Elin wedi arddangos yn yr Ariannin, Siapan, Hwngari, Yr Almaen, Caeredin a Llundain. Yn 1999 enillodd Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
I weld y gwaith ac i brynu ar lein, cliciwch yma
Nodwch nad yw'r meintiau yn cynnwys y ffram