'Arddangosfa adolygol' - 24/3/24 - 7/7/24
Gyda thristwch mawr rydym yn eich hysbysu bod Berwyn Jones wedi marw’n sydyn yn ystod yr arddangosfa hon.
Mae’n gysur mawr i ni fod Berwyn wedi cael gweld yr arddangosfa yn ei lle a phrofi’r edmygedd a fynegwyd iddo gan gynifer o bobl yn ystod yr agoriad ar y 24ain o Fawrth.
Mae’r arddangosfa yma yn dathlu gyrfa Berwyn Jones yn cynnwys ystod eang o waith sydd wedi ei gyflawni dros gyfnod o tua deugain mlynedd trwy sawl cyfrwng.
Wedi ei eni yn Llanbedrog yn 1942, cafodd dawn gelfyddydol Berwyn ei meithrin dan law yr athro clef dylanwadol Elis Gwyn Jones yn Ysgol Ramadeg Pwllheli yn ystod yr 1950au. Mynychodd Goleg Celf Caerlŷr rhwng 1960 a 1964 gan gwblhau cwrs sylfaen cyn mynd ymlaen i astudio lluniadu a phaentio.
Treuliodd flwyddyn yn yn Ysgol Gelf Brighton yn 1964-65 gan astudio ysgythru, lithograffi ac argraffu cerfweddol. Yn y cyfnod yma bu yn creu paentiadau olew ar ganfas megis ‘Bargodion Gwlith’ a bu yn rhan o arddangosfa ‘Cwlwm’ yn y Gegin, Cricieth gyda eraill o gyn ddisgyblion Elis Gwyn.
Bu yn athro celf am gyfnod gan sefydlu ei hun fel artist huan gyflogedig ddiwedd yr 1960au a dechrau’r 1970au a gwneud cyfres o dorluniau pren bychan o dirluniau Llŷn yn bennaf yn ystod y cyfnod yma.
Yn yr 1970au trodd ei law at grochenwaith gan adeiladu odyn yn cael ei thanio gyda olew. Ymunodd Janet, ei ddarpar wraig ag ef fel Prentis yn 1974 a dyma ddechrau ar gyfnod cynhyrchiol o greu crochenwaith ac mae engrheifftiau o’r crochenwaith hefyd yn rhan o’r arddangosfa.
Yn 1984 prynodd wasg ysgythru a arweiniodd at greu cyfres o ysgythriadau, tirluniau a morluniau lleol yn bennaf. Yna, yn 1994 trodd ei olygon unwaith eto at waith olew ar ganfas gan greu gweithiau mawr eu maint megis ‘Yn y Berllan’ a ‘Hen Sugn, Hen Dai’.
Ar droead y Mileniwm newydd daeth sialens newydd i ran Berwyn pan ddaeth cyfle i gydweithio gyda Hugh Jones, gof lleol i greu delw newydd i’w gosod ar Fynydd Tir y Cwmwd. Mae’r arddangosfa yn cynnwys brasluniau a grëwyd tra’n cynllunio y ddelw haearn a osodwyd i or-edrych traeth Llanbedrog yn 2002.