Mae Elfyn Lewis wedi arddangos ar draws Cymru a thu hwnt ac fe'i adnybyddir fel un o brif artistiaid haniaethol Cymru. Yn 2009 ennillodd y fedal aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ac yn 2010 rhoddwyd y glod o Artist y Flwyddyn iddo yng Nghymru. Mae wedi ennill amrywiaeth o wobrau eraill e.e. Artist Ifanc Cyfoes yr 'Academi Frenhinol Gymreig'
Yng ngeiriau Elfyn: "Yn ystod fy ngyrfa rwyf wedi datblygu dull haniaethol sydd ar y naill law, yn gysylltiedig â'r tirlun ac ar y llaw arall, yn archwylio'n ddwys i gyfrwng paent....mae fy ngwaith yn cynnwys yr elfennau a hap a damwain i gyfleu rhywle arbennig neu ddurlun, ac yn cyfeirio at enwau llefydd a phobl.....mae'r defnydd o liw a gwead yn cael ei gynhyrchu yn uniongyrchol o'r broses... yn cael ei yrru gan dirlun a chyfrwng".