Ganed Sian McGill ar ddydd Gwyl Dewi 1973 ym Mhontypŵl, de Cymru. Wedi iddi gael gradd yn y Saesneg o Brifysgol Abertawe, dychwelodd at yr hoffter o gelfyddyd a ddatblygodd gyntaf yn ystod ei phlentyndod, ‘roedd hefyd yn magu ei phlant yn ystod y cyfnod yma. Daeth paentio yn alwedigaeth llawn amser iddi ac mae bellach yn arddangos ei gwaith yn rheolaidd mewn orielau yng Nghymru a Chernyw, mae ei gwaith wedi ei ddewis ar gyfer Academi Frenhinol y Cambrian.
Daw ei hysbrydoliaeth yn uniongyrchol o’r mannau mae hi’n hoff o fod ynddynt, allan yn yr awyr agored yn mwynhau arfordir a mynyddoedd Cymru, Mae’r paentiadau yn ymateb uniongyrchol i’r tirlun, gan ddal profiad, egni ac ymdeimlad lle – sut mae’n teimlo i fod yno ar y diwrnod arbennig hwnnw. Yn baentiwr mynegianol a greddfol, mae’n gweithio ran amlaf gyda chyllell paled ond hefyd mae’n defnyddio brwshys, ei bysedd neu beth bynnag arall sydd i law ar gyfer creu’r effaith mae’n ei ddymuno. Mae’n hoff o arbrofi gyda marciau, lliw a gwead er mwyn creu effeithiau amrywiol – mae hyn yn arwain at greu peintiadau anrhagweladwy, rhai sy’n ymddangos ohonynt eu hunain bron.
Mae arddangosfa o waith newydd Sian yma yn y Plas tan Mawrth 19, 2023. Teitl yr arddangosfa yw 'Mamwlad: Ymateb o'r Galon i'r Tirwedd'