Rydw i wrth fy modd yn peintio ac astudiais Gelf Lefel A yn yr ysgol, ond oherwydd pwysau gwaith a theulu ifanc, roedd hi’n 2000 erbyn imi ymaelodi mewn Cwrs ar Gelfyddyd yng Ngholeg Macclesfield (fel efrydydd hŷn)
Yn 2010 mentrais roi’r gorau if y ngyrfa mewn insiwrans a chanolbwyntio’n gyfangwbl ar beintio. Caf f’ysbrydoli gan harddwch a tirlun Gogledd Cymru. Defnyddiaf amrywiaeth o gyfryngau (acrylig, olew,
dyfrlliw ac inc) – weithiau ‘collage’. Yn aml iawn, fyddaf yn ail gylchua c ail-lunio lluniau. Mae’r ail-lunio’n rhoi her a boddhâd a golwg newydd ar y testun imi.
Rwyf yn mwynhau arbrofi ar gymysgedd o liwiau i greu teimladau haniaethol. Mae’n debyg mai’r lluniau sy’n tynnu sylw a safbwynt pobl fwyaf, - yn ôl un person maent yn “ffrwydradau o hapusrwydd”