Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Datganiad yr artist

Rwy'n peintio oherwydd mae'n rhaid i mi, mae wedi bod ynof erioed. Mae pob paentiad yn darlunio lleoliad go iawn yr wyf wedi dod ar ei draws yn ystod fy nheithiau cerdded mewn mannau gwyllt. Yn ôl yn fy stiwdio, mae pob pwnc yn araf droi’n drosiad aml-haenog o agwedd o’m bywyd – atgof, ffrind, profiad … y corff o waith yn ei gyfanrwydd, fy nyddiadur.

Wrth gofnodi fy nghariad at y dirwedd, a’r coed yr ydym yn ei rhannu gyda nhw yn arbennig – gan ddefnyddio iaith dawel, lliw a gwead – fy nod yw gwneud cysylltiad â’r gwyliwr trwy gynrychioliad gonest fy emosiynau amrwd fy hun. Cydnabyddiaeth o'r teimladau a'r profiadau sy'n gyffredin i bob bod dynol sy'n byw ar y blaned anfesuradwy o hardd, ond cynyddol fregus hon.

Pan gefais wahoddiad i greu’r arddangosfa hon, daeth llawer o ysbrydoliaeth o’r coetir hardd yma ym Mhlas Glyn y Weddw, lleoedd eraill yn agos at fy nghartref yn Nyffryn Dyfi a thu hwnt. Roedd cael fy nghyflwyno i Christine Evans yn fonws ychwanegol sydd wedi blodeuo i gyfeillgarwch. Bu’n bleser adlewyrchu’n greadigol y cariad sydd gan y ddwy ohonom at fyd natur, gan arwain at y llyfr sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa.

“Mae Louise Moore yn artist sydd, yn ei phaentiadau tirwedd, wedi wynebu natur gyda mewnwelediad ysbrydol a llacharedd atmosfferig. Mae hi wedi cymryd yr hyn y gellid ei alw’n barhad o draddodiadau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a’r Ugeinfed Ganrif yng nghelfyddyd paentio natur ac wedi ychwanegu ei llais ei hun yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn ei defnydd o olew ac adeiladu, mae hi wedi gosod corfforoldeb amrwd ac empathig ar y pynciau sy'n cyfansoddi ei gweithiau Celf. Mae Ms Moore wedi defnyddio’r cyfoeth o awyr, tir a dŵr yn ddoeth i wneud datganiad artistig a rhoi ger ein bron baentiadau o fewnwelediad eithriadol”. CG Mornay, beirniad Celf/Ffilm Rhyngwladol

“O ran artistiaid Tirwedd, Lou Moore yw’r gorau yn y busnes”. D. Thornton, Oriel Blyth

“Mae’r artist Lou Moore yn paentio byd natur yn goch yn ei ddant a’i grafangau”.Manchester Evening News

Cliciwch i weld gwaith Lou