Ganwyd Wendy Murphy yn Farnborough, Swydd Caint yn 1956. Wedi treulio 13 o flynyddoedd yn gweithio ym myd argraffu, penderfynodd Wendy, pan yn 28ain, ddilyn gyrfa mewn celf.
Cafodd Ddiploma Anrhydeddus mewn Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Caergaint, a graddiodd o Bolitechnig Brighton ym 1990. Gwnaeth ei chartref yn Friog, Gwynedd a dechreuodd ddysgu darlunio a phaentio yn rhan amser. Derbyniodd nifer o gomisiynau trwy'r Cyngor Llyfrau Cymraeg i wneud clawr llyfrau. Rhwng 2001 a 2005 bu'n darlithio ar baentio a darlunio yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ynghŷd â darlithio mewn dosbarthiadau nos i oedolion.
Mae Wendy wedi arddangos yn eang yng Nghymru a Lloegr ac wedi ennill nifer o wobrau. Yn eu plith daeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth 'Hud a Lledrith Llŷn' 2004 yma yn Oriel Plas Glyn y Weddw. Yn ogystal, daeth i'r brig yng Nghystadleuaeth Paentio Golygfeydd John Laing dros Lundain a'r De Ddwyrain, ac yn ail a chlôd uchel trwy'r wlad.