'Rwyf o hyd yn arbrofi yn fy ngwaith, yn chwilio am syniadau a chysyniadau a ffyrdd gwahanol ag amrywiol i'w mynegu. 'Mae'r ffurf dynol wedi fy hudo ac rwyf wedi cael gymaint o bleser oi astudio'n fanwl. Rwyf yn denyddio'r ffurf dynol fel llestr i hebrwng y syniad neu'r emosiwn.Mae wedi datblygu i fod yn ffordd ffantastig o feithrin dealltwriaeth rhwng yr artist a'r gweledydd.
'Rwyf yn ceisio gadael i bobl 'weld' yr un ffordd a mi, gan geisio yn rhannol iddynt osod dealltwriaeth o nhw eu hunain ar wahanol lefel.
Ceisiaf dreuddio'r darn gyda fy steil i , h.y. gan fod yn egniol a brwdfrydig gyda'r defnyddiau i greu rhywbeth sydd yn gyffyrddol a sydd a phresenoldeb oddifewn ei leoliad.
Mae cast metel yn yn gyfrwng delfrydol er mwyn cadw naws ar cydarwaith corfforol , ac rwyf wedi arbrofi gyda llawer o wahanol ddeunyddiau gan gynnwys efydd a phlwm , er mwyn creu y cyferbyniad esthetig a throsiadol. 'Mae gennyf ddiddordeb angerddol yn y broses o o greu y cerflun ar camau o'i greu.'Mae'n hynod bwysig i mi fod y broses o gastio yn fy nwylo i, oherwydd mae'r siwrne yma yn creu bond rhyngddaf ar darn gwaith.Gan fy mod wedi astudio mewn Prifysgol gyda chyfleusterau ffwndi heb eu ail, mae gennyf ddealltwriaeth dwfn a gwerthfawrogiad o gastio metel.
'Mae'r gwaith sydd yn fy mhortffolio yn ganlyniad i fy ymchwiliad a datblygiad yn ystod diwedd fy ngwrs gradd . Erbyn hyn 'rwyf yn gweithio ar gasgliad o gerfluniau newydd sydd yn cysynu yr holl ddeunyddiau a ffactorau cyfansoddiadol.