Ganwyd Stephen John Owen yn 1959 yng Nghernarfon. Yn artist hunan ddysgedig cafodd William Selwyn, ei athro celf ddylanwad mawr arno ac er iddo ddilyn gyrfaoedd eraill yn union wedi gadael ysgol parhaodd arlunio yn bwysig iddo ac erbyn heddiw mae Stephen ei hun yn cynnal gwersi a gweithdai gan rannu ei wybodaeth a'i sgiliau yntau gydag eraill. Mae ei waith poblogaidd, sy'n adnabyddus i lawer, ac mewn casgliadau preifat ar draws y wlad.