Gyda gwaith mewn casgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a CADW, mae Luned Rhys Parri yn prysur ennill cydnabyddiaeth fel un o artistiaid mwyaf enwog a gwreiddiol Cymru.
Yn gweithio o’i stiwdio yn y Groeslon, Gwynedd, mae ei gweithiau cyffrous mewn amlgyfrwng a phapur mewn cynghrair eu hunain.
Mae celf Luned yn llythrennol yn camu allan o’r ffrâm mewn ffrwydrad terfysglyd o lawenydd sy’n teimlo ‘ar y foment’ ac yn hiraethus ar yr un pryd. Mae bywiogrwydd, hiwmor ac atgof yn plethu i greu rhywbeth ffres a ffyrnig sydd heb os, yn Gymreig.
Yn gyn-ddisgybl i’r diweddar Peter Prendergast, mae gweithiau beiddgar Luned wastad wedi denu dotiau coch ym Mhlas Glyn y Weddw. Mae’n hawdd deall sut mae ei dathliadau o Gymru a’i phobl, cyffredin ac anghyffredin, yn cael eu cipio gan gasglwyr o Gymru a thu hwnt.
Mae yna gyfoeth a chynefindra i’w chymeriadau, rhai sy’n trigo yng Nghymru y gorffennol efallai: cyfle i ail-werthuso’r harddwch a’r hiwmor a anwybyddir yn y genhedlaeth hŷn, ein dodrefn, ein ffasiynau, ein hadeiladau dadfeiliedig. Rhoddir dealltwriaeth newydd i olygfeydd bob dydd anymddiheuriadol, gyda'r gallu i wneud i'r rhai sy'n dilyn ac yn caru ei gwaith wenu o glust i glust.
“Er nad oedd gennyf unrhyw thema benodol mewn golwg wrth baratoi ar gyfer yr arddangosfa, mae llawer o’r darnau’n portreadu unigolion sydd, am wahanol resymau, wedi gwneud argraff barhaol arnaf. Maent yn cynnwys Gerald a Malo (nai a nith Hedd Wyn); Luned Gonzales, sy'n personoli Patagonia Gymreig; a'r seramegydd, Meri Wells.
Mae'n debyg bod rhai o'r ffigurau eraill yn fy atgoffa o fy mam a phobl eraill o'i chenhedlaeth.
Rwy'n gobeithio y bydd fy ngwaith maes o law yn siarad â chynulleidfa ehangach na dim ond yr ychydig ffodus ohonom sy'n dal i allu byw a gweithio yn ein gwlad. A allai’r arddangosfa hon o bosibl atgoffa alltudion, yn ogystal â goroeswyr, o’n hanes cyffredin a’r brwydrau yn y gorffennol sydd wedi ein gwneud yr hyn ydym heddiw? Efallai y bydd rhai pobl yn dysgu ychydig am ein ffordd o fyw, fel y mae heddiw ac fel yr oedd yn y gorffennol diweddar.
Rwy’n gobeithio gwneud i bobl feddwl am ailgylchu. Nid yn unig ailgylchu ffabrigau, darnau o bapur newydd ac ati, ond hefyd ailgylchu hen syniadau, ffasiynau a thybiaethau a allai fod o ddiddordeb a dilysrwydd o hyd.
Yn fwy na dim, dwi’n gobeithio gwneud i wylwyr fy ngwaith wenu yn achlysurol.”