Mae’r gwaith o dan y teitl ‘Gwreiddiau’ yn ddatblygiad o waith cynnar Sian ac yn adeiladu a’r lwyddiant y darn ‘Tynged yr Iaith’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2019. Roedd ei gwaith cynnar yn defnyddio delweddau o gromlechi meini hirion a bryngaerau gyda barddoniaeth, i gyfleu ymdeimlad o Gymreictod a gwell dealltwriaeth o werth yr iaith. Cred Sian fod yna gyswllt di-dor rhwng heddiw a’r ‘hen bethau anghofiedig’ a bod cof y genedl yn parhau yn ein hisymwybod. Mae mawredd yr etifeddiaeth Gymreig a chyflwr y genedl ynghyd a chyswllt ein tirwedd, ein hanes a’n hiaith yn themâu cyson yn ei gwaith.
Roedd yr arddangosfa 'Gwreiddiau' i'w gweld ym Mhlas Glyn-y-Weddw o fis Ionawr i Mawrth 2022.
Delweddau isod.
Cliciwch yma i weld taith rithiol o'r arddangosfa.
Cliciwch i weld maint llawn