Arddangosfa Adolygol Emrys Parry, 2023
Wedi'i ddisgrifio fel ffigwr allweddol ym myd celf Cymreig, ganed Parry yn Nefyn ym 1941. Roedd y sioe yn cynnwys gweithiau sy'n rhychwantu ei yrfa dros 65 mlynedd o hyd.
Mae gwaith Emrys Parry yn canolbwyntio ar y dirwedd leol, llinach, crefydd, yr iaith Gymraeg, chwedlau a’r cof i greu cyfansoddiadau cyfoethog. Mae adolygwyr celf wedi disgrifio Parry fel “Nid yn unig drafftiwr cain ond un o arlunwyr eiconig mwyaf dawnus Cymru” (Bernard Mitchell, Ffotograffydd).
Emrys Parry oedd Pennaeth Diploma ac Astudiaethau Diagnostig yn Ysgol Gelf a Dylunio Norwich tan 1996. Mae wedi arddangos ar draws y DU ac mae ganddo waith a gedwir fel rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'n aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig.
Dywedodd Amanda Geitner, Cyfarwyddwr Cronfa Gelf East Anglia “Yn gyson yn ei holl waith mae rheolaeth feistrolgar Parry ar strwythur, gwead a lliw, lle mae’r artist yn trefnu drama gyfareddol rhwng geometreg a ffiguraeth. Mae haelioni naratif i’r gwaith hwn sy’n ein gwahodd i edrych, dehongli a deall. Gan gyffwrdd â pherthnasoedd ac atgofion sy’n hynod bersonol i Parry, mae ei waith yn ein hatgoffa y gallwn o ddyfnderoedd preifat ein meddyliau gyfleu rhywbeth rhyfeddol i’n gilydd.”
Bydd yr arddangosfa adolygol hefyd yn cael ei ategu gan lyfr newydd sy'n darparu delweddau gweledol o waith ychwanegol a mewnwelediadau gan gyfoeswyr.
Er i Emrys Parry adael Gwynedd yn y 1950au i ddilyn ei yrfa ym myd celf yn Lloegr, ymdeimlad chwedlonol o berthyn a chysylltiad dirdynol â Phen Llŷn fu’r grym creadigol y tu ôl i’w waith am 65 mlynedd. Mae ei alltudiaeth o'i annwyl Nefyn a'i famwlad yn rhoi grym rhyfeddol i'w waith naratif.
Mae'n byw ac yn gweithio yn Great Yarmouth, Norfolk.
Delweddau isod
Mae llyfr Emrys a phrintiadau 'Taniwch Dros Gymru' ar werth yn yr oriel.
Cliciwch i weld maint llawn