Mae Niki Pilkington yn ddarlunydd Cymreig sy'n cynhyrchu portreadau ffasiwn hynod wefreiddiol. Ymysg ei chleientiaid mae TOPSHOP, Ted Baker, Syr Paul McCartney & MTV. Yn arbenigo mewn portreadau mae wedi derbyn comisiymau o bob rhan o'r byd. Mae ei harddull chwareus ond hynod fanwl wedi ei ysbrydoli gan gymeriadau a lleoedd bywyd bob dydd, gyda’r prif bwyslais ar y cymeriadau a’u gwisgoedd.
Yn adnabyddus am gyfuno ei chariad at ymadroddion, idiomau a dyfyniadau Cymraeg yn ei darnau, mae'n adrodd stori aml-haenog drwy bob darn. Boed yn hollol eglur, yn gudd neu yn lled-gudd, mae'r darluniau a'u hystyron yn cael eu creu i fynd â chi ar daith stori dylwyth teg.
Mae ei hesthetig cyfoes yn addurno waliau cartrefi ac orielau casglwyr preifat, yn ogystal â thudalennau nifer o lyfrau a chylchgronau. Ers graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth 1af yn 2007 mae hi wedi ymgymryd â phob math o gomisiynau amrywiol gan gynnwys dylunio/gwisgo ffenestri, digwyddiadau lluniadu byw, gwaith masnachol, dylunio dillad, animeiddio a gweithdai.