Rwyf yn cael fy ysbrydoli gan y byd naturiol ac wedi bod ddigon lwcus i fyw mewn ardaloedd hyfryd a gwledig yn dilyn treulio hanner cyntaf fy mywyd yn Eryri gan symud i Ynys Enlli yn 13 oed. ‘Rwyf ‘nawr yn byw yn Y Rhiw.
Galluogwyd fi i ddilyn fy hoffter angerddol tuag at luniadu bywyd gwyllt a threuliais lawer o fy amser allan yn yr awyr agored , yn arsylwi a phaentio morloi, adar y môr, morweddau, yr arfordir, gan ddatblygu diddordeb yn ddiweddarach mewn gwybed, gloynod byw a blodau.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio gyda dyfrlliw gan ddefnyddio cwyr i greu haenau o liw mewn lluniau o lystyfiant.
Mae fy nhestunau fel arfer yn rhai botanegol, a hoffaf roi sylw i bethau bychan and ydi pobl fel arfer yn sylwi arnynt, pryfetach, blodau bach a gweiriau.
Mae’r modd mae artistiaid yn creu eu gwaith yn fy nghyfareddu, hoffaf weld y marciau maent yn eu gwneud ar y ddalen, y brasluniau yn hytrach na’r darn gorffenedig. Mae’r defnydd o linell yn rhywbeth sydd yn fy niddori , sut mae testun yn cael ei gyfleu trwy un amlinelliad, a’r modd mae artist yn defnyddio eu pensiliau a’u hoffer.
‘Rwyf wedi dysgu llawer o weithio gyda artistaid bywyd gwyllt eraill a dysgu oddi wrth eu dulliau hwy.