Mae Glyn yn wreiddiol o bentref Cwm Y Glo, a bellach yn byw gyda’i wraig Mari a’u merch Gwen yn ardal Caernarfon.
Dros y blynyddoedd mae Glyn wedi arddangos ei waith mewn nifer o orielau, mewn sioeau unigol a grwpiau gan gynnwys Plas Glyn y Weddw, Oriel Mon, Ffin y Parc, Galeri Caernarfon, Royal Cambrian Conwy, Oriel Ger y Fenai, Lion Street Gallery ymysg nifer o rai eraill.
Nid yn unig mae Glyn yn arlunydd tirluniau ond hefyd wedi gweithio dros y blynyddoedd ar nifer o brosiectau a sesiynau celfyddydol a llesiant sydd yn cynnwys ‘Llesiant i Mi’, ‘Ysgolion Creadigol Arweiniol’ a ‘Celf am Les’ gyda pobl ifanc trwy Ieuenctid Gwynedd.
Fel arlunydd mae Glyn hefyd yn brysur gyda comisynau preifat, gyda gwaith wedi ei werthu dramor yng ngweledydd sydd yn cynnwys Canada, Ffrainc, Awstralia a’r Iseldiroedd. Er ei fod wastad wedi bod yn gyflogedig yn gweithio gyda pobl ifanc, cymunedau ac o fewn y sector addysg, mae wedi bod yn driw i'w gelf ac yn parhau i arlunio a phaentio gymaint a phosib.
Arddangosfa 'Golau Arall' - Mai 12 - Gorffennaf 7, 2024
Mae'r gwaith celf yma am olau, am godi ar ôl cyfnod covid a'r amser clo yng Nghymru a gweddill y byd. Mae'r arddangosfa yn dathlu beth sydd gennym ni yma ar ein stepan drws.
Rwy'n ymateb i'r tirlun drwy ddefnyddio iaith bersonol fy hun ac wedyn yn archwilio'r broses drwy weithredu yn fy stiwdio. Yn y stiwdio, rwy'n mwynhau archwilio technegau a phrosesau. Yn syml, rwy'n peintio'r byd o nghwmpas, y tir, bywyd llonydd a sefyllfaoedd bob dydd.
Credaf mewn creu darnau gwreiddiol a gweld y byd yn newydd, gan ymateb i'r hyn sydd o mlaen. Mae gen i ddiddordeb yn lliwiau a siap y tir, yn ogystal a'r hanes a diwylliant eang sydd gennym yng Ngogledd Cymru wedi ei fewnweddu i'r chwareli llechi a mynyddoedd.
Dwi eisiau i bobl sylweddoli pa mor lwcus ydy ni yn byw yn yr ardal yma ac i wneud y mwyaf o beth sydd gennym yma yn barod ar ein stepan drws.
Mae'r gwaith am gymryd risg a thrio prosesau newydd, gwneud camgymeriadau a bod gyda'r dewrder i barhau gyda'r hyn dwi yn ei gredu. Er fod y gwaith yn ymddangos yn ffigurol, rwy'n gwthio ffiniau o hyd a chymryd risgiau, gan greu gwaith haniaethol weithiau a symyd rhwng dulliau gwahanol, gan gadw fy niddordeb.
Mae'r tir yn bwysig i fi a hoffwn barhau i archwilio'r awyr agored. Yn syml rwy'n ymateb i'r tir ble cefais fy ngeni, gan geisio dal moment mewn amser drwy broses greadigol.