Ganwyd Daniel Roberson ger Llundain yn 1975. Mae yn byw ac yn gweithio ym Machynlleth. Mae ei stiwdio yn eistedd ar gopa bryn wedi ei amgylchynu gyda defaid.
'Ers iddo ennill ei Radd Meistr gydag anrhydedd mewn Celf Gain o Brifysgol Aberystwyth yn 2011, mae Daniel wedi bod yn paentio yn llawer mwy rhydd, ar adegau yn ymylu ar yr haniaethol. Defnyddia fwy o liw yn ei waith ac mae wedi mwynhau creu darluniau o'r bobl a'r tir sy'n ei amgylchynu a'i ysbrydoli.
Yn ogystal â arddangos ei waith, mae Daniel yn dysgu dylunio yn MOMA Cymru. Yn 2011, daeth ar y rhestr fer Artist y Flwyddyn yng Nghymru.
Tra bod rhai o'u baentiadau wedi eu selio ar chwedlau gwerin traddodiadol Cymru, mae eraill gyda naratif dychmygol sydd yn ddehongliad i ymateb brwdfrydig ei blant ifanc i’r bryniau a’r fforestydd sy’n amgylchynu eu cartref.
Meddai Daniel: “Gobeithio y gall y gwyliwr ddefnyddio fy mhaentiadau fel man cychwyn i greu eu storiau eu hunain, rydym ni oll yn storiwyr"