Mae Helen Sear yn byw ac yn gweithio yn Ne Cymru. Yn 2011, hi oedd cyd-enillydd y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a hefyd, derbyniodd Ddyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae hi'n arddangos yn helaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae hi'n Athro Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Falmouth.
Cynhyrchwyd y printiadau ffotograffig safon archifol hyn i gydfynd â’r arddangosfa Lure ddangoswyd ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn 2013 oedd yn cynnwys Pastoral Monuments. Mae Sear yn creu gweithiau nerthol o bethau syml yr olwg gan archwilio syniadau o weld a chanfyddiad. Treuliodd Sear flwyddyn yn cofnodi’r tyfiant mewn cae ger ei stiwdio yn Raglan, Sir Fynwy, ac yn Pastoral Monuments, cafodd chwyn disylw eu dyrchafu i statws epig wrth iddynt gael eu dangos fel lluniau anferthol wedi eu pastio ar waliau’r oriel. Cynhyrchwyd y pedwar print bychan yn arbennig i Glyn-y-Weddw fel argraffiadau cyfyngedig o 15 ac maent ar gael wedi eu fframio neu heb ffram.