Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Ganwyd Anne yn Surrey, ac roedd bob amser yn cael ei hannog gan ei theulu i ddilyn gyrfa greadigol gan ei bod wastad yn hoff o greadigrwydd a manylder. Aeth ymlaen i’r brifysgol i astudio BA (Anrh) mewn Dylunio Graffig.

Ar ôl graddio bu Anne yn gweithio i nifer o gwmnïau blaenllaw yn Llundain a de ddwyrain Lloegr fel rheolwr dylunio corfforaethol. Gan deimlo nad oedd ei gwaith yn yr amgylchedd corfforaethol mor ymarferol greadigol ag y dymunai, dechreuodd archwilio byd cyffyrddol a chreadigol, yn enwedig byd celf gwydr wedi'i ffurfio mewn odyn a gwydr lliw.

Yn fwy cartrefol yng nghefn gwlad yn hytrach na’r ddinas neu’r faestref, yn gynnar yn y 2000au manteisiodd Anne ar y cyfle i symud i Ben Llŷn i ddilyn gyrfa fwy greddfol a chreadigol mewn gwydr. Wedi addysgu ei hun mewn crefft gwydr, sefydlodd Anne ei stiwdio ym Mhen Llŷn ac adeiladu busnes creadigol gwerth chweil yn dylunio a gwneud gwydr lliw odyn a gwydr lliw ar gyfer comisiynau personol a busnes. Mae ei gwaith yn cwmpasu tu fewn, pensaernïaeth, anrhegion a'r sector corfforaethol; mae wedi ennill rhai comisiynau mawr gan arddangos gwydr yn Llundain ac ennill rhai gwobrau ar hyd y ffordd. Mae’r amgylchedd leol unigryw bob amser yn llywio ei chynlluniau wrth iddi gymryd ysbrydoliaeth o’r arfordir o’i chwmpas, yn enwedig o ddŵr.

Yn ystod y cyfnod clo yn 2020, dychwelodd Anne at ei chariad cyntaf at arlunio a phaentio a llenwi ei hamser yn trosglwyddo ei chreadigrwydd i beintio olew a phasteli yn bennaf. Mae ei gwaith yn cael ei ddylanwadu gan yr amgylchedd naturiol sydd o'i chwmpas, yn enwedig bywyd gwyllt, gan ddefnyddio ei hangerdd am fanylion o hyd, mae'n paentio paentiadau pastel mynegiannol, wedi'u harsylwi'n dda, o'r bywyd gwyllt lleol.

Yn dal i weithio gyda gwydr, mae Anne hefyd yn datblygu ei phaentiad ac mae wedi gweld llwyddiant yn rownd derfynol arddangosfa “Sketch For Survival” 2022 Explorers Against Extinction, mae wedi cyhoeddi paentiadau mewn llyfr ac mae galw mawr amdani ar gyfer comisiynau.

Mae cariad Anne at arsylwi bywyd gwyllt a’i sylw i fanylion i’w gweld yn amlwg yn ei phaentiadau mynegiannol.
 

Rydym ym falch iawn o gyhoeddi bod Anne wedi ennill Gwobr Yr Artist 2023 yn arddangosfa 'Explorers Against Extinction “Sketch For Survival 2023"