Mae Rachel yn byw yn Llysfaen ger Bae Colwyn gyda’i gŵr a diadell fechan o ddefaid.
Mae hi wedi bod yn arbrofi gyda phaentio ers yn blentyn. Enillodd Ddiploma Cenedlaethol BTEC yng Ngholeg Celf Bangor , ac addysgwyd hi gan Lesley Jones a Peter Prendergast a ysgogodd ynddi y penderfyniad i ddal ati i arsylwi, ac ymdrechu i ddal yr ymateb emosiynol i'r dirwedd o'i chwmpas.
Mae'r darluniau cychwynnol yn cael eu gwneud en plein air, ac yna yn y stiwdio, mae hi'n paentio'n egniol, yn gosod lliwiau olew impasto efallai'n smwtsio neu'n crafu'r paent nes ei bod yn hapus gyda'r cyfansoddiad a'r naws .
Mae cael ei thrwytho ym mywyd cefn gwlad yn golygu ei bod hi allan yn yr elfennau yn arsylwi'r tymhorau, yr awyr a'r golau yn gyson. Mae hyn yn cyfrannu'n isymwybodol at ei gallu i ddangos ei chariad at dir ac arfordir yn enwedig prydferthwch Penrhyn Llŷn.
Er bod Cymru i’w gweld yn bennaf yn ei phynciau, mae teithio i wahanol wledydd bob amser yn gyfle cyffrous i ddatblygu gwaith newydd.