Mae stiwdio Penelope Timmis mewn hen eglwys hardd gafodd ei throi yn dŷ mewn lleoliad trawiadol yn yr ardal fryniog ar y ffîn rhwng Cymru a Lloegr ger y Trallwng, ac mae'n yn byw ar fferm weithiol gerllaw. Gyda ehangder cefn gwlad ar garreg ei drws 'does ryfedd bod ei phaentiadau yn meddu ar fynegiant rhyddid hyfryd ac ymdeimlad o fwynhad bywyd.
Wedi ei hysbrydoli gan bopeth yn ei hamgylchedd mae synnwyr cryf o liw yng ngwaith Penelope - hyd yn oed ar ddiwrnod llwydaidd bydd hi'n gweld lliw o'i chwmpas. Gan weithio o fywyd, ffotograffau a brasluniau mae hi'n paentio blodau lliwgar, llwybrau coediog, tirluniau ac arfordiroedd garw. Ac yna mae'r ffowls - ieir, ceiliogod, gwyddau, ieir gini a thyrcwn, pob yn yn cerdded yn falch, hystum eu symudiad wedi ei ddal yn berffaith gydag ychydig o linellau brwsh. Yn ddifyr iawn ond byth yn smala, maent yn dyst i'w sgiliau arsylwadol gwych.