Ganed Therese ym 1980 a chafodd ei magu ar Benrhyn Llŷn. Ar ôl graddio o Goleg Menai, Bangor gyda BA (Anrh) mewn Celf Gain, gweithiodd fel arlunydd ar ei liwt ei hun a dechreuodd weithio i Goleg Harlech (WEA) a chynnal gweithdai ar gyfer oedolion a phlant.
Yn ystod ei chyfnod gyda Choleg Harlech roedd hi wedi'i lleoli yn y gymuned, gan weithio ochr yn ochr â oedolion bregus ag anableddau a/neu anawsterau dysgu a'u gofalwyr, a hefyd ym maes iechyd meddwl a llês trwy'r celfyddydau. Aeth y gwaith â hi ledled y sir a bu’n gweithio ym Mlaenau Ffestiniog, Porthmadog, Waenfawr, Caernarfon, Glynllifon a Bangor. Yn ystod y cyfnod hwn y dechreuodd arwain prosiectau Criw Celf i bobl ifanc a Criw Celf Bach ar gyfer plant iau, cynllun a sefydlwyd gan Gyngor Gwynedd ac mae hwn yn brosiect y mae'n dal i ymwneud ag ef.
Yn dilyn genedigaeth ei hail ferch yn 2011, penderfynodd Therese roi'r gorau i'r rhan fwyaf o'i gwaith addysgu a chanolbwyntio ar ddatblygu ei chelf ei hun ymhellach fel y gallai fod yn agosach at ei theulu ifanc. Roedd llawer o'i gwaith addysgu wedi cynnwys cynwysoldeb, a olygai fod yn rhaid iddi addasu ei phrosiectau ar gyfer amrywiaeth o wahanol alluoedd a heriau ar brydiau.
O ganlyniad, daeth ei gwaith yn fwy seiliedig ar grefft gan ganolbwyntio ar ailgylchu deunyddiau lle bo hynny'n bosibl a defnyddio technegau y gallai'r mwyafrif o setiau sgiliau eu cyflawni. Dylanwadodd hyn wrth gwrs ar ei gwaith ei hun a dechreuodd ddefnyddio’r enw ‘teska’ (enw a roddwyd iddi gan ei thaid o Wlad Pwyl) ar gyfryngau cymdeithasol i rannu ei darnau crefft. Yn raddol, fe’i mabwysiadodd fel enw artist hefyd, a dyma y mae wedi ei ddefnyddio yn enw ar gyfer y gwaith sydd yn yr arddangosfa hon.
Mae ei phaentiadau a'i gludweithiau wedi'u hysbrydoli gan Benrhyn Llŷn, a Chymru. Mae hi'n cael ei denu at hen adeiladau, tirweddau hudolus, anifeiliaid a phlanhigion cefn gwlad Cymru. Yn sicr, os ydych chi wedi dilyn gwaith Therese dros y blynyddoedd byddwch wedi sylwi bod ei gwaith yn newid cryn dipyn! Ar hyn o bryd, serch hynny, y gwaith a welwch yma yw lle mae hi ar ei hapusaf... am y tro!