Mae Katy Mai Webster yn artist ac yn wneuthurwraig printiadau wedi ei lleoli ar Benrhyn Llŷn. Mae ei gwaith wedi ei ysbrydoli gan yr ardal arfordirol o amgylch ei chartref, yn enwedig y lliwiau a gawad y tirlun, marciau a wnaed gan ddyn ar y tir a manylion natur megis ffosiliau, blodau gwyllt, cerrig a chen.
Graddiodd Katy o Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru yn 2009 gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Celf Gain ac ers hynny mae wedi bod yn gweithio fel artist gan arbenigo mewn paentio, gwneud printiadau a serameg.
Mae tirluniau serameg Katy yn cael eu gwneud â llaw gyda porslen a chrochenwaith clai caled. Tynnir y clai i mewn gyda phensil cyn i ocsidau a sglein gael eu hychwanegu mewn haenau. Mae’r darn terfynnol yn cael ei danio sawl gwaith, y sglein yn cael ei ychwanegu rhwng pob taniad er mwyn creu gwead a dyfnder.