Oll Arddangosfeydd Sgyrsiau Concerts Gweithdai Theatr Arall
Arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd 2025

Arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd 2025

Mae rhaglen arddangosfeydd 2025 ym Mhlas Glyn-y-Weddw wedi agor gyda arddangosfa gan gyfuniad o artistiaid argraffu sydd yn gweithio mewn amrywiol gyfryngau ac arddull. 

Arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd ydi’r cyfle diweddaraf i weld gwaith y diweddar argraffydd Eirian Llwyd ochr yn ochr â gwaith gan rai o gyn-enillwyr y Wobr Goffa dros y 10 mlynedd diwethaf. Bydd ffocws hefyd ar waith 7 artist sydd wedi eu dewis i fod ar restr fer y wobr eleni. Pleser yw llongyfarch Flora McLachlan ar ddod i'r brig yn y gystadleuaeth a Jonah Jones am dderbyn canmoliaeth uchel am ei waith.

Roedd Eirian Llwyd, a hanai o Brion ger Dinbych, yn argraffwraig fedrus a dawnus a berffeithiodd ei chrefft o dan Tom Piper yn Ysgol Gelf enwog UWIC sydd bellach yn rhan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. 

Yn ystod ei bywyd bu i Eirian arddangos mewn orielau ledled Cymru, ac yn dilyn ei marwolaeth cynamserol yn 2014, dangoswyd ei gweithiau yn y Senedd yng Nghaerdydd ac Oriel Môn. Roedd yn eiriolwr ymroddedig ac angerddol dros brintiau gwreiddiol fel ffurf ar gelfyddyd, a hyrwyddodd waith gwneuthurwyr printiau Cymreig yn rhyngwladol ym Mrwsel ac Amsterdam. 

Mae’r gweithiau sydd yn yr arddangosfa hon yn cynrychioli ei phrif gorff o waith, gan gynnwys rhai dyfrlliwiau cynnar, ei gwaith print yn ystod ei dyddiau fel myfyriwr a gwaith aeddfed diweddarach wrth iddi ddatblygu a pherffeithio ei chrefft.

Darllen mwy
Gweithgareddau Print Plas

Gweithgareddau Print Plas

I gyd-fynd ag arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd, byddwn yn cynnal amryw o ddigwyddiadau a sesiynau creadigol i ddathlu argraffu yma yn y Plas. Gwelwch y dyddiadau isod. 

NODWCH OS GWELWCH YN DDA BOD ANGEN I OEDOLYN FOD EFO'R PLENTYN YN YR HOLL WEITHDAI.

Chwefror 8 - Karen Owen - Gweithdy ysgrifennu creadigol i oedolion mewn ymateb i waith celf 

Chwefror 15 - Karen Owen - Gweithdy ysgrifennu creadigol i oedolion mewn ymateb i waith celf 

Chwefror 15 - Rhi Moxon - Sesiwn creu printiau i blant iau - print sgrîn a phrint mono

Chwefror 15 - Rhi Moxon - Sesiwn creu printiau i bobl ifanc yn eu harddegau - print sgrîn a phrint mono

Chwefror 16 - Nigel Morris - Sesiwn creu printiau i oedolion  - ysgythru sychbwynt

Chwefror 22 - Karen Owen - Gweithdy ysgrifennu creadigol i oedolion mewn ymateb i waith celf 

Chwefror 22 - Rebecca F Hardy - Sesiwn creu printiau i oedolion ifanc 14+ - print sgrîn 

Chwefror 27 - Casia Wiliam - Llên mewn Llun - Sesiwn ysgrifennu creadigol i blant gan ddefnyddio gwaith celf fel catalydd i syniadau am stori

Chwefror 27 - Zoe Lewthwaite - Sesiwn creu printiau i blant- Printio, Creu Marciau a Collage

Archebwch Nawr

Gweithgareddau Print Plas

Lowri-Ann yn cyflwyno....

Lowri-Ann yn cyflwyno....

Dr Meinir Moncreiffe - darlith ar drais domestig modern cynnar - 'Silent Abuse of the Welsh Gentry Wives'

Bragod - Robert Evans & Mary-Anne Roberts - Deuawd yn rhoi perfformiadau hanesyddol gwybodus o gerddoriaeth Gymraeg yr oesoedd canol.

Archebwch nawr

Lowri-Ann yn cyflwyno / Dr Meinir Moncreiffe & Bragod

The Wind in the Willows: gan Kenneth Grahame, addaswyd gan Oliver Gray

The Wind in the Willows: gan Kenneth Grahame, addaswyd gan Oliver Gray

Mae Mole yn dyheu am antur, mae Rat yn caru cychod ac mae Badger yn hoffi heddwch a thawelwch. I mewn i’w bywydau daw Toad, sy’n caru ceir cyflym iawn ac sydd wastad mewn trafferthion. Ond a all yr anifeiliaid ddiwygio cymeriad Toad a thaflu'r sgwatwyr allan o gartref ei gyndadau er mwyn adfer cyfiawnder i’r byd? Daw clasur Kenneth Grahame i’r llwyfan yn arddull ddihafal Illyria.

Hyd y perfformiad: Tua 1awr 40munud (yn cynnwys egwyl o 20 munud)

Addas i oedran 5+ 

Archebwch nawr

The Wind in the Willows

HMS Pinafore: gan Gilbert and Sullivan

HMS Pinafore: gan Gilbert and Sullivan

Wedi'i gosod ar fwrdd y llong ryfel HMS Pinafore, mae'r opera'n gwatwar yn siriol sefydliadau Prydeinig. Mae Josephine, merch y capten, mewn cariad â Ralph, morwr cyffredin; ond mae ei thad am iddi briodi Syr Joseph Porter, Arglwydd Cyntaf y Morlys. Mae'r cwpl yn cael eu dal wrth iddyn nhw ddianc o'r llong ac mae Ralph wedi'i gloi yn dwnsiwn y llong. Dim ond pan fydd rhai datgeliadau’n cael eu gwneud gan Buttercup, gwerthwr o’r dociau, y gall pawb briodi eu gwir gariadon.​ Opera gomig yn cael ei pherffmormio yn null hwyliog Illyria gan gast bychan ar set forol hardd.

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr (yn cynnwys egwyl o 20 munud)

Addas i bob oedran 

Archebwch nawr

HMS Pinafore

The Merry Wives of Windsor: gan William Shakespeare

The Merry Wives of Windsor: gan William Shakespeare

Mae Falstaff yn hollol dlawd. Mae'n penderfynu mai ei unig opsiwn yw hudo gwragedd dau fasnachwr cyfoethog. Ond mae'r merched yn ffrindiau gorau, ac wrth gwrs maen nhw'n rhannu eu cyfrinachau yn ddyddiol... Wedi eu cyfareddu, nid yn unig fod Falstaff wedi ysgrifennu atyn nhw, ond ei fod wedi anfon llythyrau caru yn union yr un fath atyn nhw, maen nhw'n penderfynu chwarae tric arno.  Gyda chymorth eu gwŷr a'u ffrindiau, mae'r 'Merry Wives' yn ei ddenu i goedwig arswydus ac yn dysgu gwers fythgofiadwy iddo! Mae'r pum actor o Illyria yn perfformio dramâu Shakespeare yn uniongyrchol o’r Ffolio Cyntaf, y rhifyn mwyaf awdurdodol o ddramâu Shakespeare. Mae'n gyflym, mae'n raenus, ac wedi'i llefaru'n hyfryd. 
 

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 20 munud (yn cynnwys egwyl o 20 munud)

Addas i bob oedran 

Archebwch nawr

The Merry Wives of Windsor