Sefydlwyd Cyfeillion Plas Glyn-y-Weddw yn ystod 80’au y ganrif ddiwethaf gan Dafydd a Gwyneth ap Tomos, perchnogion y Plas ar y pryd. Mae cefnogaeth y Cyfeillion wedi bod yn werthfawr iawn ar hyd y blynyddoedd. I roi cyfraniad - https://www.gofundme.com/f/Pla...
Mae’r cyllid a gynhyrchir trwy ffioedd aelodaeth yn ffynhonnell incwm bwysig i Blas Glyn-y-Weddw, sy’n cael ei redeg gan ymddiriedolaeth elusennol annibynnol. Mae'r arian a gynhyrchir yn cyfrannu at gostau sy'n cynnwys cynnal a chadw'r adeilad a chyhoeddi deunyddiau hyrwyddo ar gyfer arddangosfeydd.
Ymunwch heddiw er mwyn cyfrannu tuag at gynnal y ganolfan gelf unigryw yma.
Y GÔST:
Mae’r tâl aelodaeth yn £30 ac yn ddilys am 365 diwrnod o’r diwrnod y telir y ffȋ aelodaeth.
SUT I YMUNO:
NEU
MANTEISION:
TELERAU AC AMODAU:
1.Bydd aelodaeth yn ddilys am 365 diwrnod o’r diwrnod y telir y ffȋ aelodaeth.
2.Mae tâl aelodaeth o £30 yn ddyledus, gellir talu ar lein trwy ddilyn y linc ar ein gwefan, neu fe ellir talu wrth y ddesg yn yr oriel.
3.Bydd aelodau yn derbyn gostyngiad o 5% ar waith celf gwreiddiol a nwyddau y siop, nid oes gostyngiad ar gael yn y caffi. Mae’n rhaid i chi ddangos eich tocyn aelodaeth pan yn talu am eich eitemau er mwyn derbyn y gostyngiad.
4.Dim ond yr aelod (sef y sawl sydd a’i enw ar y cerdyn aelodaeth) sydd yn gymwys i dderbyn gostyngiad yn yr oriel.
5.Bydd ffȋ o £5 yn daladwy i archebu cerdyn newydd yn lle un sydd wedi ei golli.
6. Os y byddwch yn newid eich cerbyd rhaid i chi hysbysu staff Plas Glyn-y-Weddw cyn eich ymweliad, neu ar ôl cyrraedd y ganolfan a darparu'r rhif cofrestru newydd.
7. Mae'r maes parcio ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Nid yw Cwmni Plas Glyn-y-Weddw Cyf yn ymrwymo i oruchwylio’r maes parcio, ac ni fydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i gerbydau modur na’u cynnwys sut bynnag y’u hachosir, neu anaf i unrhyw berson sut bynnag yr achosir anaf, oni bai neu i y graddau a achosir gan esgeulustod sydd wedi ei brofi.
8. Sylwch nad yw aelodau yn cael blaenoriaeth i'w ddeiliad dros unrhyw gerbydau eraill sy'n parcio yn y maes parcio. Ar rai achlysuron prin gall y maes parcio fod yn llawn ac o ganlyniad efallai y bydd yn rhaid i chi aros nes bydd lle parcio ar gael.
Rydym yn ddiolchgar iawn i chi am eich cefnogaeth barhaus.