'Golygfeydd Eryri’ ydi testun arddangosfa o waith newydd gan Aled Prichard- Jones sy’n cynnwys paentiadau olew dramatig o fynyddoedd, llynnoedd ac afonydd ochr yn ochr a gwaith pastel o flodau lliwgar. Wedi ei eni a’i fagu yn ardal Bangor, mae Aled wedi cerdded a dringo mynyddoedd Eryri er pan yn blentyn ac nid yw’n syndod felly fod ei waith wedi ei ysbrydoli gan yr ardal. Mae’n llwyddo i ddal ymdeimlad o le ynghyd ag awyrgylch arbennig Eryri yn ei waith.