Mae’r arddangosfa Trofannolismo gan Morag Colquhoun ym Mhlas Glyn-y-Weddw wedi dod â'i hymchwiliadau i bryderon amgylcheddol ynghyd, yn arbennig sut mae natur a dyn yn cyd-fyw.
Mae Dr Sophie Wynne Jones yn ddarlithydd mewn daearyddiaeth dynol yn Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor Mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys ffermio a datblygiadau polisiau amaethyddol, cysylltiadau dynol-natur â natur a dyfodol y gwledig a’r dirwedd.
Mae’r sgwrs, yn Saesneg, am ddim ond galwch 01758 740763 neu ebostio enquiry@oriel.org.uk os gwelwch yn dda i sicrhau lle.
Cefnogwyd arddangosfa Trofannolismo Morag Colquhoun gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Dŵr Cymru/Welsh Water ac Ymddiriedolaeth Ynys Enlli a gellir ei gweld ym Mhlas Glyn-y-Weddw hyd 5pm Sul Gorffennaf 15fed.