Sefydlwyd Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru (CCGC) er mwyn helpu i sicrhau bod cynhysgaeth artistiaid Cymreig yn cael ei gwarchod, ei rhannu a’i deall. Mae Plas Glyn-y-Weddw yn falch o groesawu yr arddangosfa arbennig hon o ddetholiad o gasgliad y Gymdeithas sydd yn cynnwys gwaith gan artistiaid megis Gwen John, Brenda Chamberlain, Emily Jenkins, Ernest Zobole, Josef Herman a Ceri Richards.
