"Ar ymylon pethau mae'r arloesedd - neu'r ymdarddiad - mwyaf yn digwydd." Mae Trofannolismo yn ail-ddychmygu mudiad Tropicália Brasilaidd yr 1960au o bersbectif Cymru wledig.
Yn gysylltiedig â'r arddangosfa: Seminar - Celf yw Natur, Natur fel Celf 09/06/2018 10.30am – 3.30pm
Ymunwch gyda ni am ddiwrnod difyr o gyflwyniadau a thrafodaeth wedi’i ysgogi gan arddangosfa Morag Colquhoun, Trofannolismo, sy’n cwmpasu celf, dylunio a natur.
Cyfranwyr: Stephen West, Cadeirydd (artist a chyn Gyfarwyddwr Cywaith Cymru . Artworks Wales); Christine Evans (bardd); Ben Stammers (artist a chadwriaethwr); Peter Howlett (ffotograffydd, adarydd a chyn Guradur Fertebriaid yn Amgueddfa Cymru); Simon Whitehead (artist) a Morag Colquhoun (artist).
£10, yn cynnwys cinio ysgafn
10.30am – cofrestru a phaned cyn i’r seminar gychwyn am 11am.
Archebwch eich tocynnau yma neu drwy ffonio’r oriel ar 01758 740763. Rhowch wybod i’r oriel os oes gennych unrhyw anghenion diet arbennig