Gweithdy modelu clai undydd i oedolion gyda Liz Ellis, un o’r artistiaid yn yr arddangosfa Petalau a Chrafangau
£50 yn cynnwys cinio ysgafn a lluniaeth
10.30am – 4pm
Mae tylluanod porslen rhyfeddol Liz i’w gweld drwy’r arddangosfa sy’n dathlu hanner canrif ers cyhoeddi The Owl Service, nofel antur Alan Garner yn seiliedig ar hanes Blodeuwedd yn y Mabinogi.
Ymunwch â Liz am y gweithdy undydd hwn – y gweithdy cyntaf i oedolion yn ein gofod Stiwdio newydd yn Plas – i greu eich tylluan eich hun mewn clai papur porslen. Bydd Liz yn mynd a’r adar i’w tanio ac yn eu dychwelyd i’r oriel i’w casglu.
Rhaid archebu lle ymlaen llaw – trwy’r wefan www.oriel.org.uk neu ffonio’r Plas ar 01758 740763
Nodwch os oes gennych unrhyw anghenion diet arbennig
Gweithdy Tylluan Porslen