Ymunwch â ni ar Benrhyn Llŷn am benwythnos o weithgreddau sy’n dychmygu symudiadau creu lleoedd, trwy ymarfer dawns – symposiwm, dangosiadau ffilm, perfformiad, sgyrsiau a thrafodaeth, twmpath, sgwrs dros frecwast a thro.
Sadwrn 12/10/2019 10.30am – 4.15pm
Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog,
Symposiwm
£15 yn cynnwys lluniaeth a chinio (Rhowch wybod os oes gennych anghenion diet arbennig)
Wedi’i guradu a’i arwain gan yr artist symudiad ar breswyliad Simon Whitehead, mae’r symposiwm hwn ar agor i bawb sydd â diddordeb yn y lleoedd rydym yn eu creu, y tiroedd sy’n ein siapio ni a’n cyrff sy’n symyd drwyddynt.
Cyflwyniadau gan y perfformwyr dawns Simon Whitehead, Robbie Synge ac Angharad Harrop,ochr yn ochr â’r cynhyrchydd creadigol Chris Ricketts. Dangosiadau ffilmiau dawns o waith Rosemary Butcher, Eiko & Koma, Jess Lerner/Tanya Syed, Adele Vye a Cleophée Lior Moser.
Mae Simon Whitehead, yn gweithio o’i gartref gwledig yn Sir Benfro ac yn ffigwr amlwg yn rhyngwladol yn y byd symudiad perfformiadol. Bu’n byw yng ngogledd Llŷn am gyfnod yn y 90au a mae gweithio ar brosiectau gyda Plas Glyn-y-Weddw yn galluogi iddo ail-edrych ar rai o’i brosiectau o’r cyfnod yna ynghyd â datblygu prosiect yn Plas. Gyda Simon ydym yn creu atgof am y neuadd ddawns arferai fod yn atyniad pwysig ym Mhlas Glyn-y-Weddw yng nghyfnod Solomon Andrews trwy greu lawnt ddawnsio berddail gyda’r artist Jacques Nimki, a bydd comisiwn perfformiadol arbennig i’r lawnt yn cael ei gyhoeddi yn ystod y symposiwm.
Mae rhaid archebu lle ar gyfer y sympsiwm drwy ddilyn y linc ar waelod y dudalen neu ffonio’r oriel at 01758740763
Sadwrn 12/10/2019
7.30pm, Neuadd Eglwys St Pedrog, Llanbedrog
Twmpath gyda Carreg Bica ac artist dawns Rosalind Holgate-Smith
Tocynnau £6/£4 (cons. myfyrwyr, pensiynwyr a ieuenctid dan 14)
Ers rhai blynyddoedd mae Simon Whitehead wedi trefu twmpath yn neuadd bentref Abercych a dyma ddod a’r profiad i Lanbedrog. Bydd y band gwerin arobryn Carreg Bica - Julie Murphy, Ceri Rhys Matthews (dau o sefydlwyr y grwp Fernhill), Ceri Owen Jones ac Elsa Davies yn creu awyrgylch arbennig iawn.
Yn ystod y noson bydd perfformiad gan yr artist dawns Rosiland Holgate-Smith
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael
Mae rhaid archebu lle ar gyfer y twmpath drwy ddilyn y linc ar waelod y dudalen neu ffonio’r oriel at 01758740763
Tocynnau £6/£4 (cons. myfyrwyr, pensiynwyr a ieuenctid dan 14)
Cefnogir gan gynllun Noson Allan, Cyngor Celfyddydau Cymru
Sul 13/10/2019
10.30am
Cyfarfod am goffi yn Cwt Tatws, Tudweiliog (LL53 8PD) i drafod sgyrsiau, ffilmiau a themau y diwrnod blaenorol.
12pm
Tro yn ardal Nefyn, yn cynnwys olion anheddau’r Oes Haearn ar Garn Boduan, dan arweiniad yr archaeolegydd Kenneth Brassil.Dewch a chinio pecyn. Os hoffech ddod ar y dro yn unig dewch at Ganolfan Nefyn erbyn 12pm.
Rhowch wybod i’r oriel drwy ebostio enquiry@oriel.org.uk neu ffonio 01758 740763 i roi gwybod os ydych am ddod draw i Cwt Tatws a/neu y dro. Bydd angen i bawb dalu am ei luniaeth ei hun yn Cwt Tatws a bydd angen cinio pecyn ar gyfer y dro.
Cefnogir y penwythnos gan Gyngor Celfyddydau Cymru
delwedd: simon whitehead, tir bwrdd 1998
llun: Martin Roberts
Corff | Tir | Lle