'Adar a Chewyll Gwag' - arddangosfa gan 3 artist o’r Wcráin sydd wedi’ gorfodi i ffoi o’u mamwlad oherwydd yr amgylchiadau ofnadwy sydd yno ar hyn o bryd.
Maent wedi cael lloches yma ym Mhen Llŷn ac mae’n bleser mawr gennym gyflwyno eu doniau artistig i chi. Mae Alla Chakir, ei mab Roman Nedopaka a’i bartner Oleksandra Davydenko yn artistiaid proffesiynol dawnus iawn sydd wedi gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf i roi arddangosfa i ni’ fwynhau. Rydym yn eich annog i ddod draw i weld dyfnder eu dawn a’u cefnogi wrth iddynt geisio ymdopi â’u caledi presennol.
Judith Donaghy - 'Yr Haf' - gwaith lliwgar, lled-haniaethol mewn olew gan artist talentog sydd yn cael ei hysbrydoli yn fawr gan Ynys Môn.
Becky Thorley-Fox - 'Arfordir Gwyllt Cymru' - darluniau dyfrlliw wedi eu creu yn yr awyr agored - 'en plein air'
Teresa Jones - 'Gobaith Wedi'r Galar' - arddangosfa yn ymwneud a Chymru, ei hiaith a’i llenyddiaeth, ei thraddodiadau a’i thir a’i phobl.
Zoe Preece - 'In Reverence' - Arddangosfa deithiol yn cynnwys cyfres o wrthrychau domestig arferol, wedi'u cerfio'n fanwl â llaw o borslen, neu o blastr wedi'i durnio.
Mae'r arddangosfeydd i'w gweld hyd 1yp ar 24/12/22