THE PIRATES OF PENZANCE
Gan Gilbert and Sullivan
Mae Frederick, a brentisiwyd gyda'r Môr-ladron er yn blentyn, yn dod i ddeall ei fod wedi ei eni mewn blwyddyn naid ar 29ain Chwefror, a'i fod wedi ei gontractio i Frenin y Môr-ladron hyd ei 21ain PEN-BLWYDD, nid ei 21ain flwyddyn. Gyda dim ond heddlu analluog Penzance i'w amddiffyn, sut y bydd yn gwrthsefyll cael ei orfodi i ddioddef bywyd o droseddu nes ei fod yn 84 - ac a fydd ei gariad, Mabel, yn aros amdano mor hir?
Gyda melodrama doniol, dychan miniog a ffraethineb disglair, mae The Pirates of Penzance mor ffres â phe bai wedi cael ei ysgrifennu heddiw. Mae’n orlawn o ganeuon cofiadwy fel To be a Pirate King!, Modern Major ac A Policeman’s Lot is Not a Happy One.
Hyd y perfformiad (tua): 2awr 10munud (yn cynnwys egwyl o 20 munud)
Addas ar gyfer: pob oed dros 5
Cliciwch yma i archebu tocynnau https://www.ticketsource.co.uk...