Mae Oriel Plas Glyn y Weddw yn falch o gyflwyno casgliad o waith gan un o arlunwyr mwyaf cyffrous Cymru;
Mae Meinir Mathias yn parhau â’i harchwiliad ac ail-ddehongliad o dreftadaeth Cymru.
Yn dilyn ei sioeau llwyddiannus diwethaf sef ‘Rebel’ ac ‘Ysbryd’, mae Meinir yn parhau â’i datblygiad o bortreadau a phaentiadau ffigurol wedi’u plethu â symbolaeth llên gwerin Cymru a phrotest wleidyddol. Mae ei gwaith yn tynnu ar ddelweddau gwerin a hanes , wrth ddod a phersbectif cyfoes trwy ei gwaith. Wedi'i rendro â phaent olew cyfoethog, mae gwaith ffigurol, lliw a chyfansoddiad yn chwarae rhan bwysig yn ei phaentiadau.
Mae Meinir yn archwilio syniadau mewn perthynas â’i hunaniaeth Gymreig sy’n gysylltiedig â thir, lle, a chof. Mae'r corff hwn o waith yn cynnwys paentiadau olew gwreiddiol ac ysgythriadau.
Mae nifer o’i phaentiadau wedi’u prynu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer y Casgliad Cenedlaethol. Dyfarnwyd gwobr Dewis y Bobl iddi yn yr Academi Frenhinol y Cambrian ac ymddangosodd yn rhaglen Teledu ‘Cymru ar Gynfas’.
Cliciwch yma i weld gwaith Meinir ac i brynu ar lein. Nodwch os gwelwch yn dda for y gwaith yn yr arddangosfa yma i aros yn yr oriel nes y dyddiad cau ar Hydref 2ail, 2022.