Bwydlen Gyfyngedig

Byddwn yn symud y caffi o’i leoliad dros dro i’r caffi newydd sbon rhwng y 27ain o Fedi a’r 9fed o Hydref, felly ymddiheurwn o flaen llaw am unrhyw anghyfleuster.

Byddwn yn gweini bwydlen gyfyngedig yn ystod y cyfnod rhwng y 27ain o Fedi a’r 2il o Hydref a bydd y nifer o eisteddloedd hefyd yn gyfyngiedig.

Bydd yr oriel a’r caffi ar gau rhwng y 3ydd a’r 6ed o Hydref a gobeithiwn ail agor ar y 7fed o Hydref. Yn ystod y cyfnod yma byddwn yn symud y caffi I’w leoliad newydd a pharhaol yn ogystal a gosod arddangosfeydd newydd sbon.

Diolch am eich amynedd ac hir yw pob ymaros, fe fydd y profiad o fwyta yn ein caffi newydd yn un bythgofiadwy!