Emrys Parry, Adolygol & Arddangosfa'r Haf

Mae gyrfa un o artistiaid blaengar gogledd Cymru, Emrys Parry, yn cael ei ddathlu mewn arddangosfa adolygol arbennig yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan, Gwynedd eleni.

Wedi'i ddisgrifio fel ffigwr allweddol ym myd celf Cymreig, ganed Parry yn Nefyn ym 1941 a bydd y sioe yn cynnwys gweithiau sy'n rhychwantu ei yrfa dros 65 mlynedd o hyd.

Bydd yr arddangosfa o waith yr artist lleol yma tan Hydref 8ed. Cliciwch yma i weld y gwaith.

Hefyd, bydd gwaith newydd gan 95 o artistiaid yn cael eu harddangos yn Arddangosfa'r Haf. Gellir gweld yr holl waith trwy ddilyn y linc canlynol https://oriel-plas-glyn-y-wedd...