Prosiect Cydweithredol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: Casi Wyn, Bardd Plant Cymru X Zoe Lewthwaite Design

Dros fisoedd y Gwanwyn a'r Haf daeth plant Ysgol Crud y Werin, Ysgol Nefyn ac Ysgol Llandwrog ynghyd i gyfansoddi cerddi o'r newydd sy'n ymateb i'w tirluniau lleol. O Borth Dinllaen i bentref Aberdaron i draeth Llandwrog - cafwyd wythnos i'w chofio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn chwilota am drysorau naturiol a chael astudio straeon a hanesion oedd ynghlwm a throeon y llwybrau lleol.

Buodd Casi Wyn, Bardd Plant Cymru ar daith gyda'r disgyblion cyn mynd ati i greu cerddi gwreiddiol. Dan arweiniad yr artist Zoe Lewthwaite, mae hadau'r farddoniaeth wedi esblygu'n weledol i greu arddangosfa gelfydd. Aeth Zoe i gynnal gweithdy creadigol gyda phob ysgol yn addysgu’r plant am y broses o argraffu ‘cyanotype’; Gan ddefnyddio deunyddiau naturiol a gasglwyd ar y daith, mae'r llifyn yn amlygu trwy bŵer golau'r haul, gan droi'r llifyn yn lliw glas indigo, gan adael siapiau naturiol y dail wedi'u hargraffu ar y ffabrig a'r papur.

Mae’r arddangosfa’n arddangos creadigrwydd a gwreiddioldeb darn unigol o waith pob plentyn. Mae'r holl eiriau a darluniau wedi'u tynnu â llaw gan y plant gan arwain at eu darn tecstil terfynol sydd wedyn wedi'i weithio arno gyda brodwaith llaw i amlygu'r siapiau a'r symbolau arbennig.

Pont rhwng plentyn a'i fro, cyswllt rhwng pwysigrwydd y lleol gyda gweddill y byd. Dyma ddathliad o gyfoeth treftadol a naturiol Pen Llŷn a lleisiau unigryw plant yr ardal.

IMG 2084 IMG 2099 2 IMG 3198 2 IMG 3243 2 20230720 115412 20230720 115403