Arddangosfeydd Newydd (14/5/23 - 9/7/23)

Agorir yr arddangosfeydd am 2 o'r gloch, Mai 14eg, 2023 gan Dafydd Iwan

LUNED RHYS PARRI: ‘Rhwng Y Cŵn A’r Brain’

Casgliad newydd o ddioramâu, sy’n adlewyrchu profiad yr artist o fywyd a digwyddiadau yng Nghymru, heddiw ac yn y gorffennol.

JACQUES NIMKI: ‘Hwyl fawr i hyna i gyd'

Casgliad o weithiau newydd sy’n adlewyrchu preswyliad yr artist ym Mhlas Glyn y Weddw a’i amser yn crwydro llwybrau Llŷn ac Eifionydd cyn ac ar ôl y Pandemig.

JENNY RYRIE: ’Y Llinell sy'n Llifo'

Lluniau dyfrlliw yn archwilio llif egni byd Natur a photensial mynegiannol cyfrwng paentio a nodweddir gan hylifedd a thryloywder