Ymunwch gyda ni mewn gweithdy ymarferol yn cerflunio powlenni pridd gyda'r artist lleol Gabriella Rhodes. Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu'r technegau ar gyfer gwneud a gorffen powlen unigryw gan ddefnyddio deunyddiau naturiol megis clai wedi ei ddarganfod yn lleol, tywod a gwellt. Ymhlith y pethau y byddwch chi'n eu dysgu mae:
- Paratoi'r deunyddiau crai
- Technegau pinsio a cherfio syml
- Defnyddio pigmentau naturiol i ychwanegu lliw at eich gwaith
- Gorffen eich powlen (heb fod angen ei thanio mewn odyn)
Gellir cadw'r powlenni hyn i gofio am y gweithdy, i'n hatgoffa o'n cysylltiad â'r amgylchedd, neu gellir eu defnyddio i gadw pethau. Nid oes angen profiad blaenorol a bydd yr holl ddeunyddiau'n cael eu darparu. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, argymhellir eich bod yn archebu lle yn gynnar.
Mae Gabriella Rhodes (g. Stoke-on-Trent) yn artist sy’n gweithio ym Mhen Llŷn gan ddefnyddio clai fel ei phrif ddeunydd. Mae hi'n defnyddio technegau adeiladu â llaw a cherfio i wneud pethau sy'n eistedd rhywle rhwng cerflunwaith a chrefft. Mae'r ffurfiau, sydd wedi'u gwneud o bridd eu hunain, yn cyfeirio at y ddaeareg a'r tirweddau o'i chwmpas. Graddiodd o Ysgol Gelf Manceinion yn 2018 gyda BA mewn Dylunio Tri Dimensiwn ac ers hynny mae wedi canolbwyntio ei hymarfer ar ddathlu tarddiad materol a dyfnhau ei dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol.
Gweithdy Gabriella Rhodes