Twelfth Night gan William Shakespeare

TWELFTH NIGHT

Gan William Shakespeare

Yn dilyn llongddrylliad, caiff Viola ei golchi i’r lan yn Illyria, a’i hunig gyfle i oroesi yw defnyddio ei ffraethineb cyflym a’i llais canu cain, gan guddio’i hun fel dyn a gwneud cais i weithio yn llys y Dug Orsino.

Mae Orsino yn hiraethu am gariad ac yn ei anfon “ef” at y foneddiges Olivia i ennill ei serch ar ei ran, ond mae ymdrechion Viola mor llwyddiannus fel bod Olivia yn cwympo amdano ‘ef’ yn hytrach nag Orsino. Yn y cyfamser mae ewythr Olivia, Syr Toby Belch, yn croesi cleddyfau gyda’i stiward Malvolio ac yn dyfeisio cynllun drygionus i’w fychanu. Gallai'r cyfan ddiweddu mewn dagrau - hyd yn oed os mai rhai o hapusrwydd yw'r rhan fwyaf ohonynt.

Mae Illyria yn cyflwyno noson o ramant, cerddoriaeth a llawenydd pur - i gyd yn cael eu perfformio ar lwyfan a ysbrydolwyd gan rai o’r criwiau teithiol o oes Elisabeth.

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr (yn cynnwys toriad o 20 munud)

Addas i oed 8+

ARCHEBWCH DOCYNNAU